Cylchlythyr Alcohol Change UK yng Nghymru

Croeso i gylchlythyr misol Alcohol Change UK, sy’n rhoi gwybodaeth am y datblygiadau polisi a’r ymchwil diweddaraf ym maes alcohol, yng Nghymru a thu hwnt.

Yn y bwletin hwn:

Cynhadledd Alcohol Change Cymru – cadwch eich lle heddiw!

Y ddiod a phob dim arall: Nid alcohol yw'r unig broblem bob tro

Yn ystod y digwyddiad amlddisgyblaethol hwn, byddwn ni’n hoelio sylw ar sut i ddarparu’r gefnogaeth orau i’r rhai sydd ddim bob tro’n cwrdd â’r meini prawf arferol ar gyfer triniaeth – gan gynnwys rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. Os ydych chi’n teimlo’n angerddol dros leihau niwed a hybu lles, mae hon yn gynhadledd na ddylech chi ei cholli. Gobeithiwn yn fawr eich gweld chi yno!

Cewch ragor o fanylion yma.

Archebwch eich lle nawr!

Newyddion alcohol

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau


Mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau ymhlith pobl ddigartref a charcharorion, gwella’r cymorth i’r rhai sy’n wynebu problemau iechyd meddwl yn ogystal â phroblemau alcohol – dyma rai o brif amcanion cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghori.
 
Darllenwch ragor

"Mae deg y cant o gleifion mewnol ysbytai yn ddibynnol ar alcohol"


Mae un o bob pum o gleifion mewnol ysbytai’r wlad yn yfed yn niweidiol, ac un o bob deg yn ddibynnol ar alcohol. Dyna gasgliadau gwaith ymchwil newydd sy’n awgrymu y gallai baich dibyniaeth ar alcohol ar wasanaethau iechyd Prydain fod yn llawer mwy na’r disgwyl.
 
Dysgwch ragor

Dysgu o drasiedïau 


Yn ein hadroddiad newydd ni, rydym wedi dadansoddi pob un o’r 11 o Adolygiadau Gwarchod Oedolion yn Lloegr yn 2017 lle roedd alcohol wedi’i nodi fel ffactor o bwys ym mywyd a/neu farwolaeth y person. Rydym wedi ystyried hanesion trasig nifer o oedolion bregus a fu farw mewn amgylchiadau ofnadwy. Roedd gan yr oedolion bregus hyn anghenion cymhleth, gan gynnwys problemau alcohol difrifol. 
 
Darllenwch yr adroddiad

"Dim ond un o bob pum o fenywod sy’n gwybod bod alcohol yn cynyddu perygl canser y fron"


Dangosodd astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd yn BMJ Open, mai dim ond 19.5% o fenywod a oedd yn mynychu clinig canser y fron oedd yn ymwybodol bod yfed alcohol yn ffactor a all achosi’r canser.
 
Darllenwch ganfyddiadau'r astudiaeth

Yr Alban yn cofnodi gwerthiant alcohol isaf ers 25 mlynedd


Mae gwerthiant alcohol yn yr Alban wedi disgyn i’w lefel isaf ers 25 mlynedd, a hynny flwyddyn ar ôl cyflwyno isafbris amdano yno.  Er hynny, mae data o brosiect Monitro a Gwerthuso Strategaeth Alcohol yr Alban (MESAS) wedi dangos bod Albanwyr yn dal i brynu 9% mwy o alcohol y pen na phobl yng Nghymru a Lloegr.
 
Darllenwch ragor

Datblygu ymchwil newydd i niwed alcohol: golwg sydyn ar y dystiolaeth 

Mae’n bleser cyhoeddi’r ddau gyntaf o chwech adolygiad sydyn o’r dystiolaeth, wedi’u comisiynu gennym ni ar wahanol agweddau ar leihau niwed alcohol. 

Ein gobaith yw y bydd yr adolygiadau yma yn helpu’r rhai sy’n gweithio ym maes camddefnyddio sylweddau – ymchwilwyr, elusennau eraill, ymarferwyr, llunwyr polisi – a hefyd pobl arferol ar lawr gwlad, i ddeall yn well beth wyddom ni a beth na wyddom ni eto am nifer o bynciau pwysig. Mae’r adolygiadau yn rhan o’n hymroddiad ni i symbylu a chefnogi ymchwil flaengar er mwyn deall yn well am niwed alcohol a dulliau i’w leihau. 

Cewch chi ddarllen y ddau adolygiad cyntaf yma: 

Mentrau digidol i leihau niwed alcohol 

Problemau alcohol a thriniaeth ymhlith lleiafrifoedd ethnig 

Cadwch lygad barcud am weddill y gyfres. Cyhoeddir nhw ar ein gwefan yn ystod yr wythnosau nesaf. Cewch weld beth sydd ar y gweill yma

Blogiau

Polisi i'r bobl?

Pendroni am y trafodaethau yn ein cynhadledd yn Llundain mis diwethaf.

Darllenwch y blog

Pam cymaint o gyfrinachedd?

Pam mae angen i ni wneud labeli alcohol yn gliriach i gwsmeriaid.

Darllenwch y blog
Copyright © 2019 Alcohol Change UK. All rights reserved.
Alcohol Change UK is the operating name of Alcohol Research UK, registered charity no. 1140287, a limited company registered in England and Wales.


Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list.