** Cylchlythyr Alcohol Change UK yng Nghymru
------------------------------------------------------------
Croeso i gylchlythyr misol Alcohol Change UK, sy’n rhoi gwybodaeth am y datblygiadau polisi a’r ymchwil diweddaraf ym maes alcohol, yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y bwletin hwn:
* Cynhadledd Alcohol Change Cymru 2019 (#conference)
* Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau (#Submisuse)
* "Mae deg y cant o gleifion mewnol ysbytai yn ddibynnol ar alcohol" (#alcdepend)
* Dysgu o drasiedïau (#dysgu)
* "Dim ond un o bob pum o fenywod sy’n gwybod bod alcohol yn cynyddu perygl canser y fron" (#breastcancer)
* Yr Alban yn cofnodi gwerthiant alcohol isaf ers 25 mlynedd (#sales)
* Datblygu ymchwil newydd i niwed alcohol: golwg sydyn ar y dystiolaeth (#datblygu)
* Blogiau (#Latestblogs)
** Cynhadledd Alcohol Change Cymru – cadwch eich lle heddiw!
------------------------------------------------------------
Y ddiod a phob dim arall: Nid alcohol yw'r unig broblem bob tro
Yn ystod y digwyddiad amlddisgyblaethol hwn, byddwn ni’n hoelio sylw ar sut i ddarparu’r gefnogaeth orau i’r rhai sydd ddim bob tro’n cwrdd â’r meini prawf arferol ar gyfer triniaeth – gan gynnwys rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. Os ydych chi’n teimlo’n angerddol dros leihau niwed a hybu lles, mae hon yn gynhadledd na ddylech chi ei cholli. Gobeithiwn yn fawr eich gweld chi yno!
Cewch ragor o fanylion yma. ([link removed])
Archebwch eich lle nawr! ([link removed])
** Newyddion alcohol
------------------------------------------------------------
** Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau
------------------------------------------------------------
Mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau ymhlith pobl ddigartref a charcharorion, gwella’r cymorth i’r rhai sy’n wynebu problemau iechyd meddwl yn ogystal â phroblemau alcohol – dyma rai o brif amcanion cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghori.
Darllenwch ragor ([link removed])
** "Mae deg y cant o gleifion mewnol ysbytai yn ddibynnol ar alcohol"
------------------------------------------------------------
Mae un o bob pum o gleifion mewnol ysbytai’r wlad yn yfed yn niweidiol, ac un o bob deg yn ddibynnol ar alcohol. Dyna gasgliadau gwaith ymchwil newydd sy’n awgrymu y gallai baich dibyniaeth ar alcohol ar wasanaethau iechyd Prydain fod yn llawer mwy na’r disgwyl.
Dysgwch ragor ([link removed])
** Dysgu o drasiedïau
------------------------------------------------------------
Yn ein hadroddiad newydd ni, rydym wedi dadansoddi pob un o’r 11 o Adolygiadau Gwarchod Oedolion yn Lloegr yn 2017 lle roedd alcohol wedi’i nodi fel ffactor o bwys ym mywyd a/neu farwolaeth y person. Rydym wedi ystyried hanesion trasig nifer o oedolion bregus a fu farw mewn amgylchiadau ofnadwy. Roedd gan yr oedolion bregus hyn anghenion cymhleth, gan gynnwys problemau alcohol difrifol.
Darllenwch yr adroddiad ([link removed])
** "Dim ond un o bob pum o fenywod sy’n gwybod bod alcohol yn cynyddu perygl canser y fron"
------------------------------------------------------------
Dangosodd astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd yn BMJ Open, mai dim ond 19.5% o fenywod a oedd yn mynychu clinig canser y fron oedd yn ymwybodol bod yfed alcohol yn ffactor a all achosi’r canser.
Darllenwch ganfyddiadau'r astudiaeth ([link removed])
** Yr Alban yn cofnodi gwerthiant alcohol isaf ers 25 mlynedd
------------------------------------------------------------
Mae gwerthiant alcohol yn yr Alban wedi disgyn i’w lefel isaf ers 25 mlynedd, a hynny flwyddyn ar ôl cyflwyno isafbris amdano yno. Er hynny, mae data o brosiect Monitro a Gwerthuso Strategaeth Alcohol yr Alban (MESAS) wedi dangos bod Albanwyr yn dal i brynu 9% mwy o alcohol y pen na phobl yng Nghymru a Lloegr.
Darllenwch ragor ([link removed])
** Datblygu ymchwil newydd i niwed alcohol: golwg sydyn ar y dystiolaeth
------------------------------------------------------------
Mae’n bleser cyhoeddi’r ddau gyntaf o chwech adolygiad sydyn o’r dystiolaeth, wedi’u comisiynu gennym ni ar wahanol agweddau ar leihau niwed alcohol.
Ein gobaith yw y bydd yr adolygiadau yma yn helpu’r rhai sy’n gweithio ym maes camddefnyddio sylweddau – ymchwilwyr, elusennau eraill, ymarferwyr, llunwyr polisi – a hefyd pobl arferol ar lawr gwlad, i ddeall yn well beth wyddom ni a beth na wyddom ni eto am nifer o bynciau pwysig. Mae’r adolygiadau yn rhan o’n hymroddiad ni i symbylu a chefnogi ymchwil flaengar er mwyn deall yn well am niwed alcohol a dulliau i’w leihau.
Cewch chi ddarllen y ddau adolygiad cyntaf yma:
Mentrau digidol i leihau niwed alcohol ([link removed])
Problemau alcohol a thriniaeth ymhlith lleiafrifoedd ethnig ([link removed])
Cadwch lygad barcud am weddill y gyfres. Cyhoeddir nhw ar ein gwefan yn ystod yr wythnosau nesaf. Cewch weld beth sydd ar y gweill yma ([link removed]) .
** Blogiau
------------------------------------------------------------
** Polisi i'r bobl?
------------------------------------------------------------
Pendroni am y trafodaethau yn ein cynhadledd yn Llundain mis diwethaf.
Darllenwch y blog ([link removed])
** Pam cymaint o gyfrinachedd?
------------------------------------------------------------
Pam mae angen i ni wneud labeli alcohol yn gliriach i gwsmeriaid.
Darllenwch y blog ([link removed])
============================================================
** ([link removed])
** ([link removed])
** ([link removed])
** ([link removed])
Copyright © 2019 Alcohol Change UK. All rights reserved.
Alcohol Change UK is the operating name of Alcohol Research UK, registered charity no. 1140287, a limited company registered in England and Wales.
Want to change how you receive these emails?
You can ** update your preferences ([link removed])
or ** unsubscribe from this list ([link removed])
.